The Bridge Theatre Ensemble yn cyflwyno Charles Dickens’

Mae’r cynhyrchiad hwn wedi bod yn bosibl diolch i haelioni ac ysbryd cymunedol Gary Poole,BlueMay, Ed a Nicki Pritchard, Lagan Aviation & Infructure, Happy Fig, Plus 39, Joia, Sgwâr, Shillings Bar, a Kristen Soule & teulu.

Nadolig yw’r amser ar gyfer dod at ein gilydd, yn amser hudolus, ac adrodd straeon.
Gwledd Nadoligaidd i’r teulu, wedi’i berfformio yn Gymraeg a Saesneg gan artistiaid proffesiynol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r sioe yn cynnwys pypedau, cerddoriaeth fyw, a thestun gwreiddiol Dickens – yn anadlu ysbryd newydd yr wyl (mwyseirio bwriadol) i stori adnabyddus y Nadolig.
Mae’r perfformiad yn 80 munud o hyd. Goleuadau Nadoligaidd, cadwyni bwganllyd, a mins peis i gyd yn gynwysedig. Addas i deuluoedd, oed 7+.
Archebwch seddi ar gyfer y perfformiad yma ar Eventbrite. Bydd hyn yn cadw eich lle yn y lleoliad.
Perfformiadau yn Ynys Tysilio
Dydd Mawrth 9fed Rhagfyr am 5.30pm ac 8pm
Dydd Mercher 10fed Rhagfyr am 5.30pm ac 8pm
Dydd Iau 11eg Rhagfyr am 5.30pm ac 8pm
Dydd Gwener 12fed Rhagfyr am 5.30pm ac 8pm
Perfformiadau yng Nghanolgfan Telford
Dydd Sadwrn 13eg Rhagfyr am 3pm a 6pm
Mae tocynnau AM DDIM I BAWB, NEU TALU BE ALLWCH CHI
Mae’r holl gyfraniadau’n mynd tuag at dalu’r artistiaid.
Os ydych chi’n mwynhau’r hyn a wnawn ac eisiau cefnogi’r Bridge Ensemble, dyma ambell ffordd y gallwch chi wneud hynny …
Cyfrannwch yn un o’n digwyddiadau – arain parod neu gerdyn
Anfonwch eich cefnogaeth yn uniongyrchol trwy PayPal
Cysylltwch â ni i gael gwybod sut i noddi un o ddigwyddiadau
MYNEDIAD I YNYS TYSILIO
Parcio am ddim ym Maes Parcio Coed Cyrnol (LL59 5EA).
Bydd y llwybr drwy’r goedwig yn cael ei oleuo gan wirfoddolwyr, ond efallai y bydd angen fflach lamp ffôn neu tebyg arnoch.
Sylwer: Nid oes toiledau ar y safle yn Ynys Tysilio. Bydd yr Eglwys wedi ei chynhesu, ond gwisgwch yn gynnes os gwelwch yn dda, a dewch a blanced/clustog os dymunwch.
MYNEDIAD I GANOLFAN TREFTADAETH TELFORD
Nid oes lle i barcio yng Nghanolfan Treftadaeth Telford. Mae Parcio Am Ddim llai na 100 metr i ffwrdd, ym Maes Parcio Coed Cyrnol (LL59 5EA).
Mae yna mynedfeydd anabl i’r Ganolfan Treftadaeth. Mae croeso i chi gysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw anghenion mynediad.
