Andanom ni
Helô! Ni yw Ben, Andrew, a Gwen. Mi sefydlon ni’r Bridge Ensemble yn 2022 er mwyn dod â phrofiadau theatr o safon broffesiynol, greadigol a hygyrch i ogledd Cymru.
Rydyn ni’n frwd dros amharu ar gymunedau mewn ffordd gadarnhaol a gadael gwaddol artistig i genedlaethau’r dyfodol.
Pwy ydyn ni?
Ben Crystal – curadur a chynhyrchydd

Mae Ben yn actor, awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd theatr. Mae’n artist cysylltiol gyda’r Shakespeare North Playhouse, ac mae wedi curadu ar gyfer Shakespeare’s Globe, y BBC, y British Library, a’r British Council. Mae Ben wedi ysgrifennu sawl llyfr am Shakespeare ac mae’n arbenigo yn y dull ‘codi sioe yn gyflym’ o greu cynyrchiadau mewn ychydig ddyddiau, fel yng nghyfnod Shakespeare.
Magwyd Ben ym Môn ac mae’n frwd dros sicrhau bod y theatr a’r celfyddydau yn hygyrch i bawb yng ngogledd Cymru.
Gwen Thompson – cynhyrchydd

Mae Gwen yn gyfarwyddwr theatr sy’n arbenigo mewn perfformiadau corfforol a syrcas. Mae hi’n actores, pypedwr, cerddor a pherfformiwr syrcas. Mae Gwen wedi teithio gyda chwmnïau theatr a syrcas ledled y DU ac Ewrop, ac mae hi’n gweithio o Gymru.
Gallwch weld ei ffilm, Ffolio: Echdoe, yn https://ffilmcymruwales.com/our-work/ffolio-echdoe
Andrew Codispoti – cynhyrchydd

Gwneuthurwr theatr crwydrol yw Andrew. Mae wedi teithio’r byd yn creu sioeau fel perfformiwr, Cyfarwyddwr Artistig a churadur gyda Advice to the Players, Seven Stages Theatre Company, The Barnstormers Theatre, a Vicious Mole Theatre. Mae’n aelod-sefydlydd o The Shakespeare Theatre a’r Bridge Ensemble.
http://www.andrewcodispoti.com/
theatr dan arweiniad ensemble a chanddi wreiddiau yng Nghymru