Beth yw ShakesBEERience? 

Shakespeare yn fyw yn y dafarn. Gyda sgript mewn un llaw a pheint yn y llall, bydd actorion yn perfformio rhai o’r straeon gorau a adroddwyd erioed i chi eu mwynhau gyda bwyd a diod. 

Yn wahanol i gynyrchiadau theatrig parchus sydd wedi’u steilio’n ofalus, mae’r perfformiadau ‘sgript mewn llaw’ yn rhoi egni ffres i eiriau a chymeriadau Shakespeare. Mae awyrgylch hamddenol y dafarn yn creu profiad hwyliog, ymdrochol, ac efallai ychydig yn swnllyd. 

Ble? Pryd? Sut? 

Gweler Digwyddiadau i ddod i gael rhagor o wybodaeth.

I archebu lle, cysylltwch â’r lleoliadau.

AM DDIM I BAWB NEU TALU BE ALLWCH CHI

Mae talu be allwch chi yn gefnogi perfformwyr, yn ariannu digwyddiadau pellach, ac yn helpu ymledu’r profiad i gynulleidfa ehangach.

Trwy dalu be allwch chi, daw y perfformiad yn berfformiad i bawb.

Bydd yna gyfleoedd i gyfrannu drwy gydol y noson.

Eisiau cymryd rhan?

Mae’r Bridge Ensemble yn agored i bob actor a pherfformiwr, boed yn broffesiynol, yn amatur, yn brofiadol, neu’n chwilfrydig. 

Mae ShakesBEERience yn cynnwys un darlleniad cyn y digwyddiad. Mae’r perfformiad yn un ‘sgript mewn llaw’, felly mae’r gallu i ddarllen ar yr olwg gyntaf, yn hyderus, yn bwysig. Os oes gennych chi ddiddordeb ond ddim yn barod i ymgymryd â’r ymsonau, mae digon o rannau un llinell i ddechrau gyda nhw!

Rydyn ni’n rhannu cyfraniadau o’r noson rhwng yr ensemble.