
Dathliadau Penblwydd Shakespeare
Dydd Sadwrn 25ain Ebrill – Canolfan Thomas Telford, Porthaethwy
I ddathlu pen-blwydd y Bardd, rydym yn dod â diwrnod o ddathliadau ar thema Shakespeare i’r teulu cyfan yng Nghanolfan Thomas Telford.
Dyma eich cyfle i ddysgu mwy am Shakespeare a chymryd rhan. Yn gwbl ryngweithiol, mi fydd yr arian a godir yn mynd tuag at ein tymor nesaf a’n cynllunia cyffrous ar gyfer ein perfformiadau haf.
2 – 4 yp Hwyl i’r teulu! Amser stori! Perfformiadau 30-eiliad! Karaokê Shakespeare! Hunluniau gyda Shakespeare! Lluniaeth ar werth! Cacen benblwydd!
Lluniaeth ar gael, gan gynnwys cacen pen-blwydd!
Nid oes angen archebu lle ar gyfer gweithgareddau’r prynhawn – trowch i fyny ac ymunwch!
7 – 10 yh Noswaith o olygfeydd, sonedau a chaneuon! Arwerthiant Shakespeare! Lluniaeth ar werth – byrddau caws a siarcuteri gan &Caws! Coctels gan Freddie!.
Dyma fydd eich cyfle olaf i bleidleisio ar ein perfformiad dewis y gynulleidfa ym mis Mai. Neu gallwch bleidleisio nawr – yma.
Cyhoeddid yr enillydd a’n tymor haf ar ddiwedd y noson.
Fel bob amser, mae’r digwyddiad AM DDIM I BAWB NEU TALWCH BETH ALLWCH, ond mae ein perfformiadau bob amser yn llenwi’n gyflym, felly archebwch le ar gyfer y digwyddiad gyda’r nos.
Yn ogystal â pharti pen-blwydd, mae hwn yn ddigwyddiad codi arian ar gyfer Tymor Haf y Bridge Ensemble. Gallwch gyfrannu at ein perfformiadau nesaf drwy gydol y digwyddiad gydag arian parod neu gerdyn neu ar unrhyw adeg yma ar y wefan. Os oes gennych chi unrhyw ddiddordeb mewn ein noddi, cysylltwch â ni.
